Giro d'Italia: Thomas yn ail mewn cymal yn erbyn y cloc

  • 16 Mai 2017
Geraint Thomas Image copyright Getty Images
Image caption Fe gafodd Geraint Thomas brofion ar anaf i'w ysgwydd ddydd Llun

Fe wnaeth y Cymro Geraint Thomas ddychwelyd wedi'r ddamwain ddydd Sul i orffen yn ail yn y cymal yn erbyn y cloc ddydd Mawrth yn ras y Giro D'Italia.

Gorffennodd Thomas mewn 51 munud a 26 eiliad - 49 eiliad y tu ôl i Tom Dumoulin.

Mae Dumoulin bellach yn arwain y ras gyfan gan ddisodli Nairo Quintana o'r brig.

Mae Thomas bellach wedi codi i safle 11, ond mae e 5'33" y tu ôl i'r arweinydd.

Er ei lwyddiant ddydd Mawrth, dywedodd Thomas ei fod yn "brifo'n feddyliol" bod ei obeithion o gystadlu am y ras gyfan wedi diflannu gyda'r ddamwain ddydd Sul.

"Mae'n dangos fy mod mewn cyflwr da," meddai. "Roedd y ddamwain yn dipyn o ergyd ac ro'n i'n teimlo trafferth gyda fy mraich, ond roeddwn i'n hapus gyda heddiw.

"Gobeithio nawr y medra i fynd ymlaen i ennill cymal... roedd heddiw'n hwb i'r hyder yn sicr.

"Mae'n dal yn brifo'n feddyliol.. colli'r cyfle o orffen yn y tri uchaf a dim bai o gwbl arna i."

Canlyniad cymal 10:

1. Thomas Dumoulin (Ned/Sunweb) 50 munud 37 eiliad

2. Geraint Thomas (GB/Team Sky) +49 eiliad

3. Bob Jungels (Lux/Quick-Step) +56 eiliad

Arweinwyr y Giro D'Italia wedi cymal 10:

1. Thomas Dumoulin (Ned/ Sunweb) 42 awr 57 munud 16 eiliad

2. Nairo Quintana (Col/Movistar) +2' 23"

3. Bauke Mollema (Ned/Trek) +2' 38"

Hefyd:

11. Geraint Thomas (GB/Team Sky) +5' 33"