Cynghorydd ifanc 22 oed wedi marw yn dilyn salwch byr

Emily Price Image copyright IR Cymru

Mae menyw 22 oed wedi marw yn fuan ar ôl cael ei hethol i gyngor tref Aberystwyth.

Roedd Emily Price o Huntingdon yn Sir Caergrawnt ac wedi bod yn astudio mathemateg a ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd hi'n bwriadu astudio gradd meistr yn y dref flwyddyn nesaf.

Bu farw yn dilyn salwch byr.

Roedd hi wedi ei hethol i gynrychioli ward canol y dref ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams ar Twitter fod hyn yn, "newyddion trist ofnadwy. Rydyn ni wedi colli aelod anhygoel o'r teulu Rhyddfrydol yma yng Ngheredigion."

Roedd Ms Price hefyd wedi ei dewis fel y cadeirydd nesaf ar gyfer Rhyddfrydwyr Ifanc Cymru sef cangen ieuenctid y blaid.

Image copyright Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Image caption Roedd Emily Price yn gyn lywydd myfyrwyr yn y brifysgol

Yn ôl Mark Cole, y Llywydd Anrhydeddus, bydd y rhai oedd yn eu hadnabod yn gweld ei cholli: "Roedd ein hamser gydag Emily yn dorcalonnus o fyr ond bydd yr hyn wnaeth hi roi i ni yn ysbrydoli, hysbysu ac yn ysgogi ei ffrindiau am weddill eu bywydau."

Ychwanegodd ei bod yn "gymêr" ac yn "aelod annwyl" o grŵp myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ac yn gyn lywydd.

"Roeddwn ni wrth fy modd pan gafodd Emily ei hethol ar gyfer Tref Cyngor Aberystwyth... roedd hi yn mynd i gyfrannu cymaint i fywyd dinesig y dref."

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: "Bydd ei marwolaeth yn cael ei deimlo yn ddwfn gan nifer ac mae ein meddyliau gyda'r rhai sydd yn agos iddi."