Dafydd Elis-Thomas
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Datblygu democratiaeth oedd ei gyfraniad mawr'

18 Mai 2017 Diweddarwyd 09:51 BST

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi rhoi teyrnged i gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, gan ddweud mai "datblygu democratiaeth oedd ei gyfraniad mawr".

Yr Arglwydd Elis-Thomas oedd Llywydd y Cynulliad pan oedd Mr Morgan yn llywodraethu rhwng 2000 a 2009.

Daeth cyhoeddiad nos Fercher bod Mr Morgan wedi marw yn 77 oed.