Cyngor Powys yn ethol ei arweinydd benywaidd cyntaf

  • 18 Mai 2017
Rosemarie Harris Image copyright Cyngor Powys
Image caption Rosemarie Harris oedd yr unig ymgeisydd am arweinyddiaeth y cyngor

Mae Cyngor Powys wedi ethol ei arweinydd benywaidd cyntaf, yn dilyn yr etholiadau lleol ddechrau'r mis.

Arweinydd y grŵp annibynnol, Rosemarie Harris oedd yr unig ymgeisydd am y rôl, wedi i Barry Thomas gyhoeddi ym mis Mawrth na fyddai'n sefyll yn yr etholiadau.

Dywedodd ei bod yn gobeithio cael mwy o sylw i Bowys ar y llwyfan cenedlaethol, ond rhybuddiodd y gallai mwy o lymder fod ar y ffordd.

Fe wnaeth Ms Harris dderbyn 49 pleidlais, tra fo 20 wedi atal eu pleidlais ac un wedi difetha eu pleidlais.

Y Cynghorydd Dai Davies oedd yr unig ymgeisydd i olynu Keith Tampin fel cadeirydd y cyngor.