Llewod: Pryder am anaf i Ken Owens

  • 18 Mai 2017
Ken Owens Image copyright Getty Images
Image caption Enillodd Ken Owens ei 50fed cap dros Gymru yn erbyn Ffrainc

Mae bachwr Cymru Ken Owens yn annhebyg o fod ar gael i'r Scarlets os fyddan nhw'n cyrraedd rownd derfynol y Pro12 ar 27 Mai.

Fe fydd yn sicr yn methu'r rownd gynderfynol yn erbyn Leinster nos Wener wedi iddo gael anaf i'w ffêr wrth ymarfer.

Fe gafodd asesiad gan staff meddygol tîm y Llewod yn gynharach yn yr wythnos, ac fe fydd yn cael asesiad arall yr wythnos nesa'.

Mae'r bachwr 30 oed yn un o 12 Cymro yng ngharfan y Llewod, sydd ar hyn o bryd mewn gwersyll ymarfer yng Nghymru cyn hedfan i Seland Newydd ar 29 Mai.

Bydd y gêm gyntaf ar y daith yn erbyn Barbariaid Seland Newydd ar 3 Mehefin.

Dywedodd hyfforddwr sgiliau'r Llewod, Neil Jenkins: "Mae'r pethau yma'n digwydd ac mae chwaraewyr yn cael anafiadau.

"Gobeithio y bydd Ken yn iawn, er wrth gwrs mae'n colli gêm fawr i'r Scarlets ar y penwythnos.

"Gydag ychydig o lwc, fe fydd popeth yn iawn i'r Llewod."

Cafodd Owens ei ddewis i'r Llewod wedi iddo ennill ei 50fed cap i Gymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yn ei absenoldeb i'r Scarlets bydd yr Albanwr John Barclay yn gapten i'r rhanbarth.