Chris Coleman yn derbyn OBE
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Chris Coleman yn derbyn OBE wedi llwyddiant Euro 2016

19 Mai 2017 Diweddarwyd 13:42 BST

Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi derbyn OBE gan Dywysog Cymru ym Mhalas Buckingham.

Cafodd Coleman, 46, ei gydnabod am ei wasanaethau i bêl-droed ar ôl arwain Cymru i rownd gynderfynol Euro 2016.

Mae'r rheolwr wedi dweud eisoes mai ymgyrch Cwpan y Byd 2018 fydd ei olaf fel rheolwr Cymru, os ydyn nhw'n cyrraedd y rowndiau terfynol yn Rwsia ai peidio.