Oes 'na rywun yno?

  • 25 Mai 2017
Y Ddaear yn y gofod

Ar hyn o bryd, wrth ichi ddarllen hwn, mae'r iaith Gymraeg yn teithio drwy'r gofod fel rhan o gofnod arbennig o fywyd ar y ddaear.

O'r miloedd o ieithoedd sydd yn y byd, mae hi'n un o'r 55 ar fwrdd y chwilwyr gofod Voyager 1 a 2.

Eleni, mae hi'n 40 mlynedd ers lansio Voyager 2 fis Awst 1977 a Voyager 1 fis Medi 1977.

Ar y cofnod hefyd mae lluniau a synau'r ddaear i egluro i unrhyw fodau eraill sydd allan yna pwy ydyn ni a lle ydyn ni.

Mae Voyager 1 a 2 bellach wedi gadael cysawd yr haul ac yn teithio rhwng y sêr.

Yr unig chwiliwr sydd wedi mynd ymhellach erioed ydy Pioneer 10 ond rydyn ni wedi colli cysylltiad ag o ers rhai blynyddoedd. Mae Voyager yn dal i anfon gwybodaeth newydd.

Image copyright NASA
Image caption Mae disgwyl i Voyager 1 barhau i anfon gwybodaeth i'r ddaear am ryw 19 mlynedd arall

Bywyd yn y gofod

Mae Geraint Jones, Pennaeth Grŵp Gwyddorau'r Planedau yn Labordy Gofod Mullard, Coleg Prifysgol Llundain (UCL), yn sicr fod yna fywyd allan yn y gofod yn rhywle.

Ond fe allai fod yn amser hir cyn inni wybod hynny'n iawn, heb sôn am ddarganfod a ydyn nhw wedi meistroli'r Gymraeg.

"Oes, yn bendant mae 'na fywyd yn y gofod," meddai Dr Jones.

"Dwi ddim yn gwybod pa mor bell i ffwrdd maen nhw ond dwi'n siŵr bod 'na yn rhywle.

"Ond mi gymerith hi tua 40,000 o flynyddoedd tan fydd Voyager 1 yn cyrraedd seren arall felly os fysa rhywbeth yn cael hyd inni wrth y seren honno, fysa hynny mewn 40,000 o flynyddoedd.

"Mae lot fawr yn medru digwydd yma ar y ddaear yn yr amser yna felly os fysan nhw'n dod i chwilio amdanon mi fysa' pethau wedi gallu newid yn ofnadwy yma!"

Ond fe fyddai'r ddaear yn dal yma meddai Dr Jones.

"Maen nhw'n meddwl y bydd yr haul o gwmpas am ryw ddwy i dair mil o filiynau eto (2,000,000,000-3,000,000,000) ac felly'r ddaear hefyd. Ond dwi ddim yn gwybod be' fydd yn byw yma erbyn hynny!"

Image caption Mae Voyager 1 a 2 wedi gadael y "swigen anferth o gwmpas cysawd yr haul a'r planedau ac yn teithio yn y nwy tenau rhwng y sêr," meddai Dr Jones

Mae hanes sut aeth yr Athro Carl Sagan ati i ddewis yr eitemau ar gyfer Cofnod Aur Voyager yn cael ei ddweud mewn llyfr o'r enw Murmurs of the Earth.

"Dwi'n cofio darllen y llyfr, dwi ddim yn cofio ai o Lyfrgell Llangefni neu Lyfrgell y Brifysgol gefais i o," meddai Dr Jones.

"Ar ddiwedd y llyfr mae 'na restr o bob un o'r cyfarchion, a'r Gymraeg yn eu plith.

"Dwi'n cofio nodi ar y pryd bod o'n swnio ychydig yn od - 'Iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd'.

"Dwi'n meddwl bod y gair 'oes' ar goll.

"Yr Athro Frederick Ahl o Brifysgol Cornell recordiwyd yn dweud y geiriau Cymraeg, yn ogystal â'r negeseuon Lladin a Groeg. Dwi ddim yn gwybod ydy o wedi dysgu Cymraeg, ond mae ganddo fo acen eitha' da!"

Image copyright NASA
Image caption Mae 'na gyfarwyddiadau ar y Cofnod Aur yn dangos sut i'w chwarae

'Neges mewn potel'

Nid dyma'r unig dro inni geisio cysylltu â rhywun neu rywbeth yn y gofod.

Mae plac ar ochr Pioneer 10 ac 11 a anfonwyd yn 1972 a 1973 yn dangos llun o bobl a lleoliad y ddaear ac yn 1974 anfonwyd neges radio o Arecibo yn Puerto Rico i gyfeiriad clwstwr sêr M13.

Bydd yn cymryd 25,000 o flynyddoedd i gyrraedd ac felly 25,000 mlynedd arall i unrhyw signal ddod nôl aton ni.

Yn anffodus, mae'r siawns y bydd unrhyw beth yn y gofod yn darganfod y Cofnod Aur a'r negeseuon eraill yn brin, meddai Dr Jones.

"Mae'r siawns yn ofnadwy o isel mae gen i ofn!

"Mae fel rhoi neges mewn potel a'i daflu i'r môr ond bod y môr yma'n anferth ac ychydig iawn, iawn o ynysoedd ynddo fo!

"Os fydde fo'n mynd trwy'r atmosffer i lawr i wyneb ryw blaned fyse fo'n llosgi a go brin fyddai 'na fawr o obaith i rywbeth oroesi.

"Felly fydde rhaid i rywbeth gael gafael ar Voyager tra mae o dal allan yn y gofod.

"Ond mae'n neis iawn meddwl bod recordiad o rywun yn cyfarch rywun yn Gymraeg allan yna yn bell, bell, oddi wrth yr haul.

"Mae'n annhebyg iawn y bydd rhywbeth yn cael hyd iddo ond mae'n rhyw gofnod o fel oedd pethau yn y 1970au ac mae'n ddiddorol fel prosiect bod rhywun wedi meddwl beth oedd y pethau pwysicaf i'w rhoi ar y record yma i ddisgrifio pethau sylfaenol bywyd."

Mae Geraint Jones yn ein hatgoffa hefyd fod Radio Cymru wedi bod yn mynd allan i'r gofod hefyd gan fod signalau radio o dros y byd yn cael eu hanfon.

"Mae'r negeseuon yna wedi bod yn mynd allan ers degawdau erbyn hyn hefyd.

"Fydde signal Radio Cymru yn wan iawn ac wedi ei gymysgu efo rhai gorsafoedd eraill.

"Ond os fysa rhywun yn gwrando wrth y seren agosa', sydd bedair blwyddyn golau i ffwrdd, fe fyddai'n cymryd wyth mlynedd iddyn nhw bigo'r signal i fyny ac inni gael ateb.

"Yn ogystal â rhai astronôts sydd wedi siarad Cymraeg yn y gofod mae yna enwau llefydd Cymreig yn y gofod hefyd," ychwanega Dr Jones.

Image copyright Twitter
Image caption Mae NASA yn trydar yn Gymraeg am blaned Mawrth

"Mae crater o'r enw Pwyll ar un o leuadau y blaned Iau, yn ogystal ag enwau Cymraeg eraill fel Dyfed, Annwn a Pryderi.

"Ar y blaned Mawrth, mae yna gwm o'r enw Mawrth Vallis. Mae'n debyg mai yno bydd man glanio rover Ewropeaidd yn 2021."

Ers 2015 mae'r NASA wedi gwneud y Gymraeg yn rhan o brosiect swyddogol i rannu lluniau trawiadol o'r blaned Mawrth.

Maen nhw'n trydar yn Gymraeg ar gyfrif Twitter y prosiect @HiRISEWelsh.

Felly mae hanes y Gymraeg a'r gofod yn parhau ac efallai nad ydy'r disgrifiad ohoni fel Iaith y Nefoedd mor bell â hynny ohoni wedi'r cyfan.