Carwyn Jones: 'Dim newid yn nhrefn arian Ewrop'

  • 19 Mai 2017
Arian Image copyright Thinkstock

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud na ddylai fod unrhyw newid yn y drefn bresenol sy'n rheoli'r ffordd y mae arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau difreintiedig yn dilyn Brexit.

Dywedodd wrth BBC Cymru fod y "status quo" wedi gweithio'n dda i Gymru.

Mae Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi bod yn gymwys i dderbyn dros £2bn mewn cymorth gan yr UE rhwng 2014 a 2020.

Roedd rhai o'r canrannau uchaf o'r bobl oedd wedi pleidleisio o blaid gadael yr UE yn dod o'r cymunedau hynny oedd wedi derbyn yr arian yn ystod y cyfnod yma.

Bydd yr arian, sydd wedi ei dalu ers 2000, yn dod i ben yn dilyn Brexit.

Cronfa

Ddoe fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr gynlluniau i sefydlu "Cronfa Ffyniant Gyffredinol" yn lle'r cymorth sydd yn dod o'r UE, os bydd y blaid yn ennill yr Etholiad Cyffredinol.

Ond dywedodd Carwyn Jones na ddylai'r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan lywodraeth Prydain.

Image caption Mae Carwyn Jones yn credu fod angen i'r drefn bresenol o ariannu ardaloedd difreintiedig barhau

Dywedodd: "Yn fy meddwl i, yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw fod Llywodraeth y DU yn gwarantu'r lefel o wariant yr ydym wedi ei gael hyd yn hyn gan yr Undeb Ewropeaidd, ac fe ddylai'r arian gael ei ddosbarthu yn unol â'r rheolau sydd ganddo ni nawr, cadw'r status quo, mae wedi gweithio'n dda iawn i Gymru.

"Mae'r un peth yn wir am amaeth a physgota er enghraifft. Cadw'r hyn sydd ganddo ni nawr ac yna dros amser, dylai'r pedwar llywodraeth eistedd i lawr a gweithio allan i ble rydym yn mynd nesaf.

"Un peth na allwn ei gael yw un llywodraeth yn dweud wrth bawb arall beth sy'n mynd i ddigwydd."

Maniffesto

Dywed maniffesto'r Ceidwadwyr fod y blaid yn bwriadu creu "Cronfa Ffyniant Gyffredinol", gan ymgynghori gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru am y manylion.

Dywedodd dogfen y blaid fod y cynllun arianu presenol yn "ddrud i'w weinyddu ac wedi ei dargedu'n wael", gan ychwanegu y byddai'r drefn newydd yn "rhad i'w gweinyddu, yn isel mewn biwrocratiaeth ac wedi ei thargedu at ble mae'r angen mwyaf."

Image copyright PA
Image caption Cyhoeddodd y Ceidwadwyr eu bwriad i sefydlu Cronfa Ffyniant Gyffredinol wrth lansio eu maniffesto ddydd Iau

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Mark Williams fod yr UE wedi bod yn hanfodol "wrth greu a diogelu swyddi, dod a'n hisadeiledd i'r unfed ganrif ar hugain mewn llawer o rannau o'r wlad, a chynnig cyfleoedd i entrepreneuriaid newydd.

"Byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn lansio pecyn gwerth £100bn o fuddsoddiad isadeiledd ychwanegol ar gyfer y DU, i greu swyddi, adeiladu cartrefi, a buddsoddi yn yr economi werdd i greu economi sy'n gweithio i bawb."

Mae Plaid Cymru wedi addo eu bod am fynu fod Cymru'n parhau i dderbyn "pob un ceiniog" o'r arian y mae'n ei dderbyn ar hyn o bryd o Ewrop, unwaith mae Prydain wedi gadael yr UE.