Morgannwg yn wynebu her yn erbyn Sir Nottingham

Criced Image copyright Getty Images

Fe ddechreuodd Sir Nottingham yn hyderus iawn ar ddiwrnod cyntaf y chwarae yn erbyn Morgannwg yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd yn stadiwm SWALEC Caerdydd.

Fe fydd yr ymwelwyr yn hyderus o hawlio pwyntiau bonws ddydd Sadwrn wedi gorffen y dydd ar 335-6.

Ond roedd Morgannwg wedi dechrau'r diwrnod yn dda, ac erbyn amser te roedd y tîm cartref wedi llwyddo i gyfyngu Nottingham i 155-4.

Llwyddodd Timm van der Gugten i gipio pedair wiced am 52.

Ond nid ar chwarae bach mae rhwystro'r sir sydd ar frig yr ail adran, ac fe gynyddodd Jake Libby'r rhediadau i 123.

Aeth Libby allan am 109 rhediad gyda Wessels yn ei ddilyn am 120 rhediad, cyn i'w cyn gapten Chris Read hawlio sgôr o 45 yn y sesiwn olaf.