Stade Français 46-21 Gleision

Sergio Image copyright Rex Features
Image caption Capten Stade Francais, yr Eidalwr Sergio Parisse

Colli oedd hanes y Gleision yn erbyn Stade Français ym Mharis, a hynny o 46-21.

Mae hyn yn golygu y bydd y Gleision yn chwarae yng Nghwpan Her Ewrop am y trydydd tymor yn olynol ar ôl colli gêm gynderfynol Cwpan y Pencampwyr nos Wener.

Aeth y Gleision ar y blaen yn gynnar wedi ceisiadau gan Macauley Cook a Nick Williams, cyn i'r tîm cartref daro'n ôl ychydig cyn yr hanner gyda chais gan Waisea Nayacalevu.

Croesodd yr asgellwr Wing Sekou Macalou y llinell ddwywaith yn yr ail hanner i Stade.

Hawliodd Giorgi Melikidze, Matthieu de Giovanni, Laurent Panis a Clement Daguin geisiadau i'r clwb hefyd.

Llwyddodd Cook i sgorio ail gais i'r ymwelwyr yn Stade Jean Bouin, ond erbyn hynny roedd yn rhy hwyr.

Bydd Stade nawr yn wynebu'r tîm buddugol yn yr ail gêm gynderfynol rhwng Northampton a Connacht ddydd Sadwrn.