Ysgol breifat ym Mangor yn cau ar ddiwedd y tymor

Ysgol Image copyright Google

Bydd ysgol breifat Hillgrove ym Mangor yn cau ddiwedd y tymor.

Mewn datganiad ar wefan yr ysgol dywed James a Sylvia Porter nad oes modd i'r ysgol barhau oherwydd rhesymau economaidd.

Mae'r ysgol wedi gwasanaethu Bangor a'r cyffiniau ers 1934 ac y mae Mr a Mrs Porter wedi bod yn goruchwylio'r gweithgareddau ers 1975.

Ychwanegodd y ddau eu bod yn dymuno yn dda i'w disgyblion yn eu hysgolion newydd.