Twneli Brynglas i gau i'r dwyrain nes bore Llun

Twneli Brynglas Image copyright Geograph

Bydd twneli Brynglas ar yr M4 ar gau i gyfeiriad y dwyrain o nos Sadwrn nes bore Llun.

Fe fydd gwaith yn cael ei gynnal i adnewyddu'r twneli, ac mae'n rhan o waith ehangach fydd yn parhau nes mis Chwefror 2018.

Bydd y ffordd ar gau rhwng 20:00 nos Sadwrn a 06:00 fore Llun.

Dywedodd Traffig Cymru mai'r A48 o amgylch Casnewydd yw'r ffordd y mae traffig yn cael ei ddargyfeirio, ond ychwanegodd ei bod yn bosib cymryd llwybrau eraill.

Ni fydd y gwaith yn effeithio ar deithwyr i gyfeiriad y gorllewin.