Negeseuon sarhaus at wleidyddion yn 'rhy gyffredin'

Dynes Image copyright Getty Images

Mae negeseuon ar-lein sy'n targedu gwleidyddion yn atal rhai merched rhag ymgeisio mewn etholiadau, yn ôl undeb.

Dywedodd undeb UNSAIN bod sylwadau rhywiaethol wedi dod yn llawer rhy gyffredin i bobl sy'n ceisio gwasanaethu eu cymunedau.

Mae ymgeisydd Llafur yn Aberconwy, Emily Owen yn dweud ei bod wedi derbyn negeseuon gan ddynion yn dweud iddi ddadwisgo am eu pleidlais.

Mae'r Senedd wedi sefydlu tîm i gefnogi'r rheiny sy'n cael eu targedu.

'Ffiaidd'

Dywedodd Ms Owen ei bod wedi cael sioc gweld y negeseuon y mae hi wedi eu derbyn ar Facebook a Twitter ers iddi gyhoeddi ei bod yn ymgeisydd.

Daw chwe mis wedi i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ddweud ei bod wedi derbyn sylwadau "ffiaidd" ar-lein - gydag un dyn wedi'i garcharu am ddweud bod angen i rywun ei threisio, ac un arall wedi cael gorchymyn cymunedol am ddweud y dylai rhywun ei saethu.

Dywedodd UNSAIN bod Ms Owen a Ms Wood yn bell o fod yr unig rai i dderbyn negeseuon sarhaus, a'u bod wedi dechrau cynnig hyfforddiant am sut i ddelio â sefyllfaoedd o'r fath.

"Mae'n dod yn broblem enfawr - rhywiaethol, bwlio a phobl yn cael eu beirniadu am y ffordd y maen nhw'n edrych," meddai Jenny Griffin, sy'n rhedeg yr hyfforddiant newydd i UNSAIN.

"Mae'n bendant yn atal merched rhag ymgeisio - yn enwedig rhai gyda phlant, am nad ydyn nhw eisiau rhoi eu teuluoedd trwy hynny."

'Diddiwedd'

Ychwanegodd ymgeisydd Llafur yn Rhondda, Chris Bryant ei fod yn credu bod dynion hoyw a phobl o leiafrifoedd ethnig yn cael eu targedu hefyd.

"Rydw i'n ei dderbyn yn ddyddiol - rhegi, sylwadau homoffobig a chelwydd llwyr," meddai.

"Rwy'n 'nabod llawer o bobl sydd wedi ystyried gyrfa mewn gwleidyddiaeth ond sydd ddim eisiau rhoi eu hunain trwyddo - mae'r sylwadau'n ddiddiwedd."

Image copyright Getty Images

Fe wnaeth ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts gyflwyno mesur i fynd i'r afael â negeseuon o'r fath yn ei gwaith fel Aelod Seneddol.

"Rwy'n meddwl y dylai gwefannau cymdeithasol fod yn gwneud mwy i fynd i'r afael â'r broblem," meddai.

"Mae ganddyn nhw gyfrifoldeb ac rwy'n teimlo nad oes digon o atebolrwydd."

Dywedodd y Ceidwadwyr eu bod yn cymryd negeseuon ar-lein o ddifrif, a'u bod yn "cefnogi ymgeiswyr ac ASau i ddelio â'r mater".

Manteision cyfryngau cymdeithasol

Ond ym marn yr Athro Matthew Williams o adran droseddeg Prifysgol Caerdydd, mae buddion cyfryngau cymdeithasol yn drech na'r agweddau negyddol.

"Dydw i ddim yn meddwl o reidrwydd bod problemau gyda gwefannau cymdeithasol yn atal pobl ifanc rhag dilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth, ac mewn nifer o ffyrdd mae'n fantais ar gyfer lledaenu eu neges," meddai.

"Ond mae'n rhaid defnyddio synnwyr cyffredin i osgoi'r perygl a'r targedu. Os oes 'na rywun yn derbyn negeseuon sarhaus, y peth cyntaf y dylen nhw ei wneud yw ffonio'r heddlu."

Straeon perthnasol