Blogiau Vaughan Roderick: Cyflwr y pleidiau

  • 20 Mai 2017
Vaughan Roderick

Cyn yr etholiad cyffredinol mae ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick wedi bod yn edrych ar gyflwr y pleidiau. Dyma'r casgliad llawn:

Yr hwch drwy'r siop i UKIP?

Sut mae esbonio'r ffaith bod plaid sydd bron byth yn llwyddo'n etholiadol yn gallu cael ei chyfri' fel un o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn ein hanes gwleidyddol?

Wel mae'n ddigon hawdd wrth drafod UKIP, wnaeth lwyddo - er cynddrwg ei methiannau etholiadol - i godi llond bola o ofn ar y Ceidwadwyr ac yna Llafur, tra'n sicrhau ac ennill refferendwm ynghylch ei phrif amcan.

Ond ai etholiad annisgwyl Theresa May yw'r un lle bydd yr hwch yn mynd trwy'r siop i'r blaid borffor?

Ai dyma'r un lle fydd diffyg trefniadaeth ac ymgecru parhaus y blaid o'r diwedd yn cyfri' yn ei herbyn gan yrru'r Brexitwyr yn ôl i freichiau croesawgar y Ceidwadwyr?

Wel efallai, ond efallai ddim.

I rai cyn-Lafurwyr sydd o hyd yn reddfol yn ei chael hi'n anodd cefnogi'r Torïaid, gallai UKIP o hyd gynnig rhyw fath o gartref, ac yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol gallai UKIP brofi'n weddol wydn.

Eto i gyd go brin fod gan y blaid unrhyw obaith o gipio sedd yng Nghymru, amcan a fyddai wedi ymddangos yn realistig flwyddyn yn ôl gyda system etholiadol cyntaf i'r felin San Steffan yn llawer llai caredig iddi na systemau cyfrannol y Cynulliad a Senedd Ewrop.

Felly ar Fae Caerdydd y bydd yn rhaid i'r blaid ddibynnu am gynhaliaeth ar ôl yr etholiad, gan obeithio y gallai troeon trwstan Brexit weithio o'i phlaid.

Os nid nawr i Plaid, pryd?

Os nid nawr, pryd?

Dyna i chi'r cwestiwn y dylai arweinwyr Plaid Cymru fod yn gofyn.

Ers hanner canrif bellach mae'r blaid wedi bod yn chwennych buddugoliaethau trawsnewidiol yn y Gymru ddiwydiannol - yn fwyaf arbennig cymoedd y de.

Yn ystod y cyfnod hwnnw cafwyd ambell i isetholiad addawol, ambell i fuddugoliaeth Cynulliad a chipiwyd ambell i gyngor - am un tymor yn unig.

Yr hyn na gafwyd yw'r fath o symudiad parhaol o Lafur i Blaid Cymru y mae'r blaid wedi awchu amdano gyhyd.

Gyda'r blaid Lafur ar ei gliniau - oni ddylai 2017 fod yn gyfle felly?

Efallai ddim - a dyma'r broblem, o bosib.

Mewn gwirionedd mae'r hyn sy'n cael ei gynnig gan Blaid Cymru i'r etholwr yn hynod o debyg i'r cynnig gan Lafur Cymru.

Mae un yn hawlio ei bod yn Darian Cymru a'r llall yn sefyll ei chornel.

Ar bwnc dyrys Brexit lluniodd y ddwy blaid bolisi ar y cyd, a dyw'r un pwnc mawr sy'n eu gwahanu, sef annibyniaeth, ddim yn tanio dychymyg yr etholwyr.

Fel yn yr etholiadau lleol mae'n bosib y bydd Plaid Cymru yn ennill tir yn yr etholiad hwn - ond go brin y bydd na ddaeargryn dan gadarn goncrit Philistia!

Gaeaf garw y Democratiaid Rhyddfrydol

Tim Farron, neb llai, oedd yr un wnaeth ddisgrifio aelodau ei blaid fel chwilod duon y byd gwleidyddol.

Roedd y blaid jyst fel y pryfed bach a fyddai, meddai nhw, yn gallu goroesi gaeaf niwclear.

Cân o glod oedd hynny i fod, gyda'r arweinydd yn mynnu bod ei blaid yn gallu gwrthsefyll hyd yn oed yr hinsawdd wleidyddol fwyaf anffafriol.

Yn sicr mae'r blaid wedi bod yn straffaglu trwy aeaf garw iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a doedd na ddim arwydd o wanwyn yn yr etholiadau lleol ychydig wythnosau yn ôl, go brin felly y fendith hi pan ddaw yr haf.

Mae hyd yn oed y Democrat Rhyddfrydol mwyaf optimistaidd yn cyfaddef mai dim ond pedair sedd sydd ar y ford mewn gwirionedd, Ceredigion, yr unig sedd a enillwyd yn 2015 ynghŷd â Chanol Caerdydd, Brycheiniog a Maesyfed a Maldwyn, tair sedd oedd yn eiddo i'r blaid tan yn gymharol ddiweddar.

Ond gyda'r Ceidwadwyr yn rhemp mae'n bosib taw breuddwyd gwrach yw'r syniad o adennill seddi Powys - sir wnaeth bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ôl dweud hynny mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn feistri ar ymgyrchu lleol a chwennych pleidleisiau tactegol, ond heb sylfaen leol mae hyd yn oed y cryfder hwnnw mewn peryg o ddisbyddu.

Dilema strategol y Ceidwadwyr

Mae'n broblem ddymunol wrth reswm ond mae'n bosib bod y brif her i'r Ceidwadwyr yng Nghymru y tro hwn yn ymwneud â disgwyliadau.

Mae'n bosib y byddai hyd yn oed canlyniad hanesyddol o dda gyda llond sach o seddi'n cael eu cipio'n ymddangos yn siomedig yn sgil ambell i bôl a phroffwydoliaeth.

Y gwir yw bod y Ceidwadwyr yn wynebu dilema strategol.

Ai chwarae'n saff sydd orau, gan ganolbwyntio ar lond dwrn o'r seddi mwyaf enilladwy yntau gamblo trwy fentro i diroedd cwbl newydd i'r blaid?

Mae ymweliadau Theresa May a Chymru'n awgrymu taw'r ail strategaeth sy'n apelio, gyda cheiri Llafur fel Casnewydd a Phen-y-bont dan warchae.

1983 oedd annus mirabilis y Ceidwadwyr Cymreig gyda 14 o Dorïaid yn cael eu hethol i San Steffan.

Fe fyddai'r blaid yn siomedig i beidio â chyrraedd y trothwy hwnnw y tro 'ma.

Gallasai pethau newid wrth gwrs ac mewn rhai seddi targed mae'r drefniadaeth Geidwadol yn hanesyddol wan.

Serch hynny mae un peth yn sicr. Yn ôl yn 1997 pan gollodd y Ceidwadwyr bob un o'u seddi Cymreig, byddai neb wedi proffwydo y gallai'r blaid goddiweddyd Llafur prin 20 mlynedd yn ddiweddarach.

Unrhyw beth yn bosib i Lafur

Ydy'r peth am ddigwydd mewn gwirionedd? Ydy'r Ceidwadwyr ar fin trechu Llafur yn ei chaer Gymreig?

Wel mae unrhyw beth yn bosib.

Wedi'r cyfan mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi curo Llafur mewn etholiad Ewropeaidd cyn hyn ac mae'r gefnogaeth i Lafur wedi bod yn dirywio am ddegawd a mwy gyda'r declein yna'n cychwyn ymhell cyn dyfodiad Jeremy Corbyn fel arweinydd.

Hyd yma, gyda'r bleidlais gwrth-Lafur ar wasgar, trwy dargedu seddi'n effeithiol roedd modd i'r blaid dal ei gafael ar seddi tra'n colli pleidleisiau.

Dyw hynny ddim yn gallu para am byth ac ymddengys taw eleni o bosib yw'r flwyddyn pan fydd y gwendid cynhenid yn amlygu ei hun.

Felly beth sydd i'w wneud? A fydd pwyslais ar Carwyn Jones ac ymgyrch llawr gwlad effeithiol yn llwyddo i leddfu rhywfaint ar y don las?

Os felly yn lle y dylai'r llinell amddiffyn fod?

A ddylai Llafur roi'r gorau i frwydro mewn etholaethau tra ymylol fel Gŵyr a Dyffryn Clwyd neu hyd yn oed ystyried ildio rhai o'i seddi rheng flaen ei hun er mwyn achub y rheiny yn yr ail reng?

Dyw Llafur Cymru ddim wedi arfer a delio a chwestiynau o'r fath ond mae hwn yn gyfnod o ddewisiadau caled a phenderfyniadau anodd i'r blaid, a megis cychwyn mae'r cyfnod hwnnw.