Rownd gynderfynol y Pro12: Munster 23-3 Gweilch

  • 20 Mai 2017
Francis Saili Image copyright Getty Images
Image caption Francis Saili sgoriodd unig gais yr hanner cyntaf

Munster fydd yn herio'r Scarlets yn rownd derfynol y Pro12 wedi iddyn nhw drechu'r Gweilch ym Mharc Thomond ddydd Sadwrn.

Fe gafodd y Gweilch ergyd cyn i'r gêm ddechrau, wrth i'r mewnwr Rhys Webb dynnu allan gydag anaf llai nag awr cyn y gic gyntaf, gan olygu y bu'n rhaid i Brendon Leonard ddechrau yn ei le.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen trwy gic gosb Dan Biggar, cyn i gais Francis Saili a chic gosb Tyler Bleyendaal roi Munster ar y blaen o 8-3 ar yr hanner.

Fe wnaeth y tîm cartref ymestyn eu mantais ar ôl awr o chwarae wrth i Simon Zebo groesi'r gwyngalch am gais gafodd ei drosi gan Bleyendaal, cyn iddo ychwanegu cic gosb arall.

Roedd y Gweilch yn credu eu bod wedi taro 'nôl trwy gais gan Scott Otten ddeng munud o'r diwedd, ond i'r dyfarnwr cynorthwyol benderfynu bod y bêl wedi ei tharo 'mlaen yn y cymal olaf cyn y cais.

Ychwanegodd Munster at eu mantais yn y munudau olaf wrth i'r asgellwr Andrew Conway sgorio trydydd cais i'r Gwyddelod.

Munster felly fydd yn herio'r Scarlets yn rownd derfynol y Pro12 yn Nulyn y penwythnos nesaf yn dilyn eu buddugoliaeth yn Leinster nos Wener.

Straeon perthnasol