Opera Y Tŵr yn 'torri tir newydd'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Opera Y Tŵr yn torri tir newydd

20 Mai 2017 Diweddarwyd 18:12 BST

Yr actorion John Ogwen a Maureen Rhys sy'n cael eu cysylltu'n bennaf ag un o ddramâu enwocaf Gwenlyn Parry, Y Tŵr, ond dau ganwr opera yw'r diweddaraf i ddod â'r stori'n fyw.

Mae'r cyfansoddwr Guto Puw wedi troi'r ddrama yn opera, a gyda geiriau gan Gwyneth Glyn, mae'r gwaith yn torri tir newydd.

Gohebydd Celfyddydau BBC Cymru Huw Thomas sydd â'r hanes.