Sir Nottingham yn rheoli yn erbyn Morgannwg

  • 20 Mai 2017
Stuart Broad Image copyright Getty Images
Image caption Bowliwr Lloegr, Stuart Broad, oedd un wnaeth greu argraff i Sir Nottingham

Fe wnaeth Sir Nottingham roi eu hunain mewn safle cryf i drechu Morgannwg ar ddiwedd y batiad cyntaf ar yr ail ddiwrnod yng Nghaerdydd.

Mae Morgannwg ar ei hôl hi o 261 rhediad wedi i Sir Nottingham ychwanegu at eu cyfanswm o'r dydd cyntaf i gyrraedd sgôr o 448.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 187 erbyn diwedd yr ail ddiwrnod, a dim ond Aneurin Donald (53) roddodd unrhyw drafferth i'r ymwelwyr.

Roedd bowliwr Lloegr, Stuart Broad a Luke Fletcher yn enwedig wedi creu argraff i Sir Nottingham.

Batiad cyntaf:-

Sir Nottingham: 448

Morgannwg: 187

Straeon perthnasol