Gareth Bale yn ôl yng ngharfan Real Madrid

  • 21 Mai 2017
Gareth Bale Image copyright EPA

Mae Gareth Bale yn ôl yng ngharfan Real Madrid i herio Malaga nos Sul ar ôl gwella o anaf i'w goes.

Mae'r Cymro yn gobeithio chwarae rhan yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Juventus yng Nghaerdydd mewn pythefnos, ar 3 Mehefin.

Mae wedi methu'r saith gêm ddiwethaf yn dilyn anaf yn erbyn Barcelona ar 23 Ebrill.

Un pwynt sydd angen ar Real yng ngêm ola'r tymor i sicrhau eu bod yn ennill La Liga am y tro cyntaf ers 2012.

Roedd Bale, 27, wedi hyfforddi gyda'r garfan trwy gydol yr wythnos, ond doedd ddim yn ddigon ffit i herio Celta Vigo nos Fercher.

Straeon perthnasol