Uwchgynghrair Lloegr: Abertawe 2-1 West Bromwich Albion

  • 21 Mai 2017
Jordan Ayew Image copyright Getty Images
Image caption Gôl Jordan Ayew oedd ei gyntaf i'r Elyrch ers ymuno â'r clwb ym mis Ionawr

Fe wnaeth Abertawe drechu West Bromwich Albion ar ddiwrnod olaf y tymor ddydd Sul wrth i dymor anodd orffen ar nodyn cadarnhaol i'r Elyrch.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf wrth i Jonny Evans sgorio gyda pheniad o groesiad Darren Fletcher.

Ond roedd yr Elyrch yn gyfartal wedi 72 munud wrth i'r ymosodwr Jordan Ayew sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb ers ymuno o Aston Villa ym mis Ionawr.

Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda phum munud yn weddill, wrth i Fernando Llorente sgorio foli yn dilyn gwaith da gan Luciano Narsingh.

Er y tymor anodd i Abertawe, mae'r fuddugoliaeth yn golygu eu bod yn gorffen yn y 15fed safle yn yr Uwchgynghrair.