Morgannwg yn rhwystro buddugoliaeth Sir Nottingham

Colin Ingram Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Colin Ingram oedd y seren i Forgannwg gyda sgôr o 72 rhediad

Fe wnaeth Morgannwg lwyddo i rwystro Sir Nottingham rhag cael buddugoliaeth hawdd, wrth iddyn nhw fatio trwy'r trydydd diwrnod yng Nghaerdydd.

Ar ôl cael eu gorfodi i fatio eto ar ôl bod ar ei hôl hi o 261 rhediad ddydd Sadwrn, fe gyrhaeddodd y sir o Gymru 212-5 erbyn diwedd dydd Sul.

Mae'n golygu eu bod yn parhau 49 rhediad ar ei hôl hi, a'u gobaith yw y bydd y glaw yn dod i'w hachub ar y diwrnod olaf.

Colin Ingram oedd y seren i Forgannwg gyda sgôr o 72 rhediad.

Batiad cyntaf:-

Sir Nottingham: 448

Morgannwg: 187

Ail fatiad:-

Morgannwg: 212-5

Straeon perthnasol