Anafiadau difrifol i fachgen ar ôl disgyn mewn chwarel

  • 21 Mai 2017
Achub Mynydd Image copyright Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau

Mae bachgen wedi ei hedfan i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl iddo ddisgyn 40 troedfedd mewn chwarel ger Merthyr Tudful.

Fe wnaeth bachgen 13 oed ddisgyn mewn chwarel ger Cefn Coed brynhawn Sul.

Bu tri thîm achub mynydd, hofrennydd gwylwyr y glannau ac ambiwlans awyr yn helpu achub y dyn dros gyfnod o ddwy awr.

Dywedodd Mark Moran o Dîm Achub Mynydd Canol y Bannau ei fod wedi bod yn chwarae gyda'i ffrindiau pan ddisgynnodd.

Mae'r dyn wedi cael ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol.