Penodi rheolwr newydd CPD Dinas Bangor

  • 22 Mai 2017
Kevin Nicholson

Mae cyn-reolwr dan 23 Caerdydd, Kevin Nicholson, wedi ei benodi yn rheolwr newydd CPD Dinas Bangor.

Mae Nicholson, 31 oed, sydd yn dal trwydded hyfforddi broffesiynnol dosbarth A gan UEFA, yn cynnig dros 10 mlynedd o brofiad hyfforddi ar y lefel uchaf.

Yn ystod ei yrfa, mae Nicholson wedi hyfforddi timau yn cynnwys Derby County, Stoke City, Clwb Caerwysg yn ogystal â gweithio gyda hyfforddwyr fel Nigel Clough a Paul Tisdale.

Fe fydd Nicholson yn gweithio'n agos gyda'i is-reolwr Gary Taylor-Fletcher, a'r cyfarwyddwr, Stephen Vaughan Jr. ar ymgyrch y dinasyddion ar gyfer tymor 2017/18 medd y clwb.