Cyhuddo 80 o dwyllo cwmnïau yswiriant ceir

Llys Image copyright Google
Image caption Cafodd yr 80 eu hebrwng o flaen ynadon y llys mewn grwpiau o 10 ar y tro

Mae 80 o bobl wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Cwmbrân i wynebu honiadau o gynllwynio i dwyllo cwmnïau yswiriant ceir.

Fe honnir fod y diffynyddion wedi cynllwynio i gyflwyno ceisiadau yswiriant ffug am ddamweiniau ceir ac anafiadau yr oeddynt wedi eu dioddef.

Cafodd y diffynyddion eu hebrwng o flaen ynadon y llys mewn grwpiau o 10 ar y tro.

Roedd rhai o'r 80 yn perthyn i'w gilydd, yn cynnwys tad a mab.

Mae llawer oedd yn y llys yn dod o Sir Caerffili.

Cafodd pob un eu rhyddhau ar fechniaeth ac fe fyddant yn ymddangos o flaen Llys y Goron Casnewydd ddiwedd fis Mehefin.