Dyn yn gwadu achosi marwolaeth nyrs ger y Felinheli

Susan Owen Image copyright Llun Teulu
Image caption Bu farw Susan Jane Owen yn y digwyddiad ym Mhentir ar 23 Medi y llynedd

Mae dyn 31 oed o Ynys Môn wedi gwadu achosi marwolaeth nyrs ger y Felinheli yng Ngwynedd drwy yrru'n beryglus.

Bu farw Susan Owen, 50 oed, oedd yn byw ger Llangefni, wrth iddi yrru ei char BMW ar ffordd y B4547, Nant y Garth, ar 23 Medi'r llynedd.

Mae'r erlyniad yn honni fod Barry Slaymaker, o Faes Meurig, Gwalchmai, yn gyrru fan VW Transporter mewn modd peryglus.

Cafodd Mr Slaymaker ei ryddhau ar fechniaeth gan y Barnwr Merfyn Hughes QC yn Llys y Goron Caernarfon, ac fe fydd yn wynebu achos llys ym mis Tachwedd.