Yr athletwraig Philippa Roles wedi marw'n 39 oed

Disgen Image copyright Getty Images

Mae UK Athletics wedi cyhoeddi fod y Gymraes Philippa Roles, oedd wedi cynrychioli Prydain ddwywaith mewn Gemau Olympaidd yn y gamp o daflu'r ddisgen, wedi marw.

Roedd yr athletwraig o Gastell Nedd yn 39 oed.

Fe wnaeth gynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Athen yn 2004 a Beijing yn 2008.

Nid yw achos y farwolaeth wedi ei gyhoeddi.

Dywedodd Prif Weithredwr UK Athletics Niels de Vos: "Mae pawb yn UK Athletics yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Philippa yn ystod y cyfnod trist yma".

Fe daflodd Ms Roles bellter o 62.89 metr yn 2003, gan ei gosod yn y pedwerydd safle'r drwy Brydain.

Fe ddaeth yn bedwerydd ddwywaith yng Ngemau'r Gymanwlad hefyd, ym Manceinion a Delhi, ac yn chweched yn Kuala Lumpur a Melbourne.

Hi oedd pencampwraig Cymru'n 2008.

Image copyright Getty Images