Etholiad 2017: Ymgeiswyr Ynys Môn

Ynys Lawd

Anaml y mae llanw a thrai cefnogaeth pleidiau gwleidyddol ar y tir mawr yn cyffwrdd glannau Ynys Môn - mae personoliaeth ymgeisydd yn cyfri' am lawer mwy na lliw eu rhoséd.

O ganlyniad, mae sedd Ynys Môn wedi cael ei hennill gan bedair plaid wahanol ers yr Ail Ryfel Byd, ac mae sawl un yn cadw llygad ar y frwydr eleni.

Tra'n sefyll ar ochr clogwyn yn edrych allan dros Fôr yr Iwerydd, mae posib gweld goleudy Ynys Lawd yn y pellter.

Adeilad gwyn yw hwn sy'n sgleinio yn yr haul yn un o ardaloedd mwyaf anghysbell o Fôn, sydd ei hun yn un o rannau mwyaf anghysbell Cymru.

Mae pellter yr ynys o'r canolfannau gwleidyddol yn San Steffan a Chaerdydd yn esbonio rhywfaint ar sut y mae pobl yr ynys hon yn tueddu i dorri cwys wleidyddol eu hunain.

'Wfftio'

Ar fore Llun gwlyb a diflas, rwy'n cwrdd ag Albert Owen mewn caffi yn ei dref enedigol, Caergybi.

Fe sy'n dal y sedd ar hyn o bryd ar ôl ei hennill am y tro cyntaf 'nôl yn 2001.

Ond, er bod pob un aelod seneddol yr ynys sydd wedi sefyll er mwyn cael eu hail-ethol wedi ennill ym mhob un etholiad ers 1955, mae Albert Owen yn ymwybodol ei fod e'n wynebu tipyn o her os yw e'n mynd i amddiffyn ei fwyafrif bychan o 229 o bleidleisiau.

"Rydw i'n ei gweld hi llawer yn well na'r etholiad yn 2015, os ydw i'n gwbl onest gyda chi," mae'n dweud wrthai dros baned o de.

"Ond ma' pobl wedi'n wfftio i yn 2005, '10, a '15 ac yn awr yn 2017. Dydw i ddim mewn unrhyw ffordd yn gwrthod y ffaith bod yna arolygon barn gwael ond dwi ddim yn meddwl bod pobl am weld buddugoliaeth ysgubol i'r Ceidwadwyr."

Image caption Mae Albert Owen wedi bod yn Aelod Seneddol Ynys Môn ers 2001

Rwy'n gofyn iddo os yw pobl yn codi arweinyddiaeth Jeremy Corbyn o'r blaid ar garreg y drws: "Ydyn, ma' nhw. Ac mae rhai'n bositif ac eraill yn negyddol.

"Os ydych chi'n gwrando ar rai o'r adroddiadau, byddech chi'n meddwl ei fod i gyd yn negyddol. Dydy o ddim.

"Mae yna rai pobl sydd wastad yn dweud bod gan Lafur yr arweinydd anghywir - clywes i hyn am Blair, Brown, a Miliband, ac rwy'n ei glywed eto gyda Corbyn."

O'r sedd ffenest yn y caffi, gallwn weld fferi o Ddulyn yn cyrraedd Porthladd Caergybi - atgof o'r pryderon penodol sy'n wynebu'r ynys wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i ddechrau'r trafodaethau Brexit.

"Rydym bellach yn borth i'r Undeb Ewropeaidd. Unwaith y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn borth i Weriniaeth Iwerddon.

"Dwi ddim yn credu bod y prif weinidog yn deall. Mae hi'n siarad am y ffin galed rhwng gogledd a de Iwerddon, ond rwy'n poeni am borthladdoedd Cymru a dim tollau ychwanegol," meddai.

O'r pump sy'n sefyll ar Ynys Môn yn yr etholiad hwn, dim ond ymgeisydd UKIP wnaeth gefnogi Brexit, tra bod mwyafrif bychan o bobl Ynys Môn wedi pleidleisio dros adael - 50.9% dros adael, 49.1% yn cefnogi aros.

40 munud mewn car i ben arall yr ynys, rwy'n cwrdd â rhagflaenydd Albert Owen mewn siop sy'n gwerthu tsilis ym Miwmares.

Ar ôl blasu'r tsili llygad aderyn (byth eto!), mae Ieuan Wyn Jones, cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru (1987-2001) ac Aelod Cynulliad (1999-2013) dros Ynys Môn cyn iddo ymddeol fel gwleidydd yn 2013, yn dweud wrthai mai Brexit yw'r rheswm pam ei fod e'n ymgeisio i ddychwelyd.

"Mae'r rhain yn amgylchiadau unigryw, yn wirioneddol eithriadol o ystyried yr etholiad cyffredinol hwn," meddai.

"Rwyf am wneud yn siŵr, pan fyddwn yn dychwelyd i'r Senedd yn San Steffan ar ôl Mehefin yr 8fed, bod gan Ynys Môn rhywun gyda llais lleol cryf sy'n gallu ymladd drosti."

Image caption Mae Ieuan Wyn Jones yn ymgeisio unwaith eto er iddo ymddeol fel gwleidydd yn 2013

Mae ei wrthwynebwyr gwleidyddol yn mynnu mai cam yn ôl fydde pleidleisio drosto, ond mae cyn-arweinydd Plaid Cymru a chyn-Ddirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru yn dweud bod ganddo'r profiad angenrheidiol ar gyfer y swydd.

"Fe fyddai'n amgylchiadau lle, efallai, y byddai ymgeisydd newydd yn briodol. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'n hanfodol cael rhywun sydd â phrofiad o wahanol rannau o'r llywodraeth yn y Cynulliad ac wrth gwrs, y Senedd yn San Steffan ei hun."

Mae dyfodol ynni niwclear ar Ynys Môn - un o brif dargedau Plaid Cymru - wedi achosi rhaniadau o fewn y blaid, gyda'r arweinydd Leanne Wood yn dweud ei fod e'n "fater anodd".

Mae cynlluniau ar gyfer gorsaf bŵer niwclear Wylfa Newydd wedi eu cyflwyno ac roedd Ieuan Wyn Jones yn dweud wrthai ei fod wedi bod yn gefnogwr "am 10 mlynedd neu fwy".

"Fy swydd i pan fyddai'n mynd i'r Senedd fydd cynrychioli pobl Ynys Môn ac rwyf am wneud yn siŵr bod ganddynt swyddi o ansawdd da."

'Cymru wledig'

Y diwrnod canlynol, rwy'n dod ar draws Ieuan Wyn Jones unwaith eto ym mart wartheg Gaerwen.

Mae'n amlwg yn lle da i ganfasio pleidleiswyr, gan mai'r ymgeisydd Ceidwadol rydw i wedi trefnu i gyfarfod ag o; cyn-ymgynghorydd arbennig yn Swyddfa Cymru ac ymgeisydd am y tro cyntaf, Tomos Dafydd Davies.

Mae'n byw yn Llundain ar hyn o bryd ond wedi cael ei ddewis gan y blaid gyda rhyw fis tan y diwrnod pleidleisio.

Ond dyw e ddim yn derbyn y feirniadaeth ei fod wedi cael ei yrru yno gan y Ceidwadwyr yn ganolog heb unrhyw gysylltiad gyda'r sedd.

"Dydw i ddim yn derbyn hynny. Rwy'n Gymro Cymraeg. Mae'r iaith Gymraeg yn rhan annatod ohona i.

"Mae Cymru wledig yn agos iawn at fy nghalon. Mae gwreiddiau dwfn gan ochr mam a dad yn y gymuned amaethyddol ac fe nes i ddelifro ar gyfer gogledd Cymru yn fy mywyd proffesiynol pan wnes i weithio yn Swyddfa Cymru yn Llundain.

"Fy neges i yn yr etholiad yma yw bod angen llais Torïaidd cryf o fewn llywodraeth Geidwadol gref er mwyn sicrhau bod pethau'n dod i'r gornel hon o ogledd Cymru.

"Rydym ni angen rhywun y tu fewn i'r babell sy'n gallu cael sylw'r prif weinidog."

Image caption Yn ôl Tomos Dafydd Davies mae'n cynnig "gwleidyddiaeth ddeinamig a ffres"

Mae e'n gefnogwr "ddiamwys" o Wylfa Newydd ac yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r ynys, "yn enwedig y diwydiant ffermio", yn sgil Brexit.

"Rwy'n cynnig rhywbeth gwahanol, rhywbeth newydd. Rwy'n wyneb ffres," mae'n dweud wrthai o fewn clyw tair buwch limousin.

"Rwy'n credu bod pleidleiswyr yma wedi blino ar y ddwy brif blaid, Llafur a Phlaid, yn cymryd pleidleiswyr Ynys Môn yn ganiataol. Rydw i'n cynnig gweledigaeth ddeinamig, ffres, a chredaf y bydd yn ddigon i greu rhywfaint o hanes ar 8 Mehefin."

Fe fyddai buddugoliaeth Geidwadol yn sicr yn hanesyddol, cyn ethol Keith Best ym 1979 a 1983, Is-iarll Bulkeley oedd y diwethaf i ennill y sedd i'r Torïaid nôl yn 1722.

'Ar y ffens'

A dyw'r ynys heb bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol, gynt y Rhyddfrydwyr, ers 1950 pan etholwyd Megan Lloyd-George, merch y cyn-brif weinidog David Lloyd-George.

Sarah Jackson, gafodd ei geni yn Lerpwl ond sydd wedi byw yng ngogledd Cymru ers 14 mlynedd, sy'n sefyll dros y blaid am y tro cyntaf.

Ei gwrthwynebiad i 'Brexit caled' - gadael Marchnad Sengl yr UE a'r Undeb Tollau - sydd wedi ei gyrru hi i "sefyll a chael ei chyfri'".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol, meddai, yn "chwilio am opsiwn llawer mwy meddal" pan ddaw i Brexit, tra ei bod yn eistedd "ar y ffens" pan ddaw i Wylfa Newydd.

Image caption Mae Sarah Jackson yn sefyll dros y Democratiaid Rhyddfrydol am y tro cyntaf

Dwy flynedd yn ôl, daeth UKIP yn bedwerydd ar Ynys Môn gyda 5,121 o bleidleisiau.

Ond er gwaethaf i mi gynnig sawl cyfle, doedd eu hymgeisydd y tro hwn, James Turner, ddim ar gael ar gyfer cyfweliad.

Ar un adeg, roedd yr ynys yn cael ei hystyried yn dipyn o gadarnle i'r blaid, ond mae'n ymddangos bod y gefnogaeth yn cilio.

Mae yna gwestiwn mawr ynghylch beth fydd yn digwydd i'r rheiny wnaeth gefnogi UKIP y tro diwethaf - a fyddan nhw'n troi at y pleidiau eraill neu'n penderfynu peidio pleidleisio?

Gallai'r ateb i'r cwestiwn hwnnw fod yn ganolog wrth benderfynu'r canlyniad ar Ynys Môn ar 8 Mehefin.