Cyfartal rhwng Morgannwg a Sir Nottingham

Chris Cooke Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Llwydd Chris Cooke i gael 113 o rediadau i Forgannwg heb fod allan

Cyfartal oedd hi rhwng Morgannwg a Sir Nottingham ar y diwrnod olaf o chwarae yng Nghaerdydd.

Llwyddodd Colin Ingram i wrthsefyll 10 awr wrth iddo lwyddo i gael 155 rhediad heb fod allan.

Roedd ymdrechion Chris Cooke hefyd yn arwrol wrth iddo lwyddo i gael 113 rhediad heb fod allan i rwystro Sir Nottingham rhag ennill.

Llwyddodd Morgannwg i orffen 420 am 5, 159 rhediad ar y blaen i Sir Nottingham.