Scarlets yn paratoi ar gyfer y rownd derfynnol y Pro 12
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Y Scarlets yn paratoi ar gyfer y rownd derfynol y Pro 12

22 Mai 2017 Diweddarwyd 22:06 BST

Mae'r Scarlets yn prysur baratoi ar gyfer rownd derfynol y Pro 12 yn erbyn Munster yn Nulun.

Llwyddodd Y Scarlets i ennill yn erbyn Leinster nos Wener o 27 - 15 a hynny gyda 14 dyn am ran helaeth o'r gêm.

Mae'r Scarlets yn aros i glywed os bydd Steff Evans yn cael chwarae yn y rownd derfynol ar ôl iddo weld y garden goch am dacl frwnt yn erbyn Garry Ringrose.

Bydd Y Scarlets yn wynebu Munster yn Nulun ar 27 Mai gyda'r gic gyntaf am 18:15.