Profiad teulu o'r gogledd o ymosodiad Manceinion
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Manceinion: 'Teimlad bod rhywbeth yn wrong'

23 Mai 2017 Diweddarwyd 09:33 BST

Roedd Vicky Pickavance o Fangor a'i merch 12 oed yn y cyngerdd yn yr arena ym Manceinion pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Roedd hi'n meddwl mai balŵn yn chwythu oedd sŵn y ffrwydrad i ddechrau. Ond ar ôl gadael yr arena fe gafodd hi deimlad "bod rhywbeth yn wrong".

Ar ôl rhedeg yn ôl i'r gwesty fe wnaeth hi sylweddoli mawredd yr hyn oedd wedi digwydd.