'Tafarn y gymuned': Her i landlordiaid ifanc y gorllewin

  • 24 Mai 2017
Rhos yr Hafod, Cross Inn Image copyright Google
Image caption Tafarn Rhos yr Hafod yng Ngheredigion

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rai digon heriol i dafarndai ar hyd a lled y wlad.

Gyda newidiadau i reolau fel ysmygu mewn mannau cyhoeddus, trethi'n codi, a'r dirwasgiad, mae tua 21,000 o dai tafarn wedi cau yn y Deyrnas Unedig ers 1980.

Ond mae'n bosib fod newid ar droed yng ngorllewin Cymru, gyda tho ifanc lleol yn arwain y ffordd.

Yn ôl un o'r landlordiaid hynny, y gobaith yw sicrhau fod y tafarndai hynny yn parhau yn llefydd "i'r gymuned".

'Dod adre'

Mae Elin Hywel, 26, yn rhedeg tafarn Rhos yr Hafod yn Cross Inn, Ceredigion ers dwy flynedd a hanner bellach.

Cyn hynny roedd y ferch fferm wedi mynd i fyd dysgu, cyn gweithio fel mamaeth yn Llundain, ac yna dychwelyd "adre" i redeg y busnes.

Image caption Elin Hywel yn gofalu am y bar yn ei thafarn yn Cross Inn

"Ro'n i'n nabod y lle, ond wrth gwrs mae'n hollol wahanol pan ti'n cymryd lle drosto," esboniodd.

"Roedd e'n anodd i ddechre. [Ond] roedd pawb yn grêt, o leia' ma fe'n Gymry Cymraeg a rhywun sy'n nabod y lle, ddim jyst rhywun dieithr yn troi lan a thrio.

"Ro'n i'n gwybod o'r dechre mai dim tafarn fi oedd e, roedd e wastad yn mynd i fod yn dafarn i'r gymuned."

'Potensial'

Ychydig filltiroedd i ffwrdd mae Dylan Jones, 28, bellach yn rhedeg tafarn y White Swan yn Llan-non, ar ôl ei phrynu ym mis Tachwedd 2016.

"Ro'n i'n gweithio 'ma am naw mlynedd cyn iddo fe gau lawr, felly holes i os gallen ni gael first offer, a mynd o fan 'ny. Ni 'di refurbisho'r lle i gyd, reit trwyddo," meddai.

Image copyright Google

"Ro'n i'n gwybod shwt oedd e'n gweithio, ro'n i'n gwybod bod potensial i gael yma. Fi'n fachgen o'r pentref, ac mae hynna'n helpu, a siarad Cymraeg yn helpu lot rownd ffordd hyn."

Er hynny, mae'n cyfaddef fod y gwaith o gael y busnes ar ei draed unwaith eto cyn agor wedi bod yn heriol tu hwnt, gyda'r holl waith adnewyddu a diogelwch oedd ynghlwm â hynny.

"Roedd trio cael morgais yn galed, galed i'r lle yma. Aethon ni drwy wyth, naw banc yn y diwedd cyn bod nhw'n fodlon benthyg arian i dafarn oedd ar gau," meddai.

Image caption Bu Dylan Jones yn gweithio yn nhafarn yr White Swan cyn ei phrynu

Yn ôl Matt Williams o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, dyw bod yn hunangyflogedig ddim yn anghyffredin yng nghefn gwlad, ond mae gweld pobl ifanc wrthi'n torri eu cwys eu hunain yn anarferol.

"Rydyn ni'n gwybod fod tua 20% o bobl yng nghefn gwlad yn hunangyflogedig, ac mae hwnna'n cymharu i rywbeth fel 13% dros Gymru i gyd," meddai.

"Hefyd 'dan ni'n gweld bod pobl hunangyflogedig yng nghefn gwlad bach yn hŷn na maen nhw yn y dinasoedd yng Nghymru.

"Dim ond tua 7% o bobl ifanc rhwng 16 a 29 ym Mhowys a Ceredigion sy'n hunangyflogedig, ac yng Nghaerdydd efallai byddai'n tua 18%. Felly mae'r bobl yn hŷn yng nghefn gwlad na maen nhw yn y dinasoedd, ond mae mwy ohonyn nhw."

'Dwylo saff'

Dros y ffin yn Sir Gâr, mae'r to hŷn yn paratoi i basio'r awenau i bâr o ddwylo ifanc.

Chwe blynedd ers agor Tafarn y Talardd yn Llanllwni, bydd John Jones yn trosglwyddo cyfrifoldeb dros y casgenni i James a Nia Knox yr wythnos hon.

Image copyright Google

"Dim ni sy'n neud y dafarn, ond pawb sy'n dod 'ma, y staff, y cwbl lot," meddai John Jones.

"Pâr ifanc, Cymry Cymraeg lleol, 'na beth o'n i moyn neud. Ni'n ffan mawr o bobl ifanc, ac roedd e'n bwysig iawn i fi... mod i'n gallu trosglwyddo fe i bâr o ddwylo saff, ond mod i dal ddigon ifanc a byw yn lleol i allu helpu mas os oes ishe."

I James Knox, gafodd ei fagu dros y mynydd ym mhentref Brechfa, mae'n gyfle i redeg busnes a pharhau i fyw yn lleol.

Image caption John Jones yn pasio'r awenau i James Knox

"Local ni yw e... fi 'di dechrau pryd o'n i'n 20, dechre bant fel potwash, ac wedyn nawr mae'n amser i fi, ac mae Nia 'di bod 'run peth," esboniodd.

Un dymuniad sydd gan John Jones, wrth weld y cwpl ifanc cymryd yr awenau.

"Mae'n mynd i fod yn hollol wahanol bod ochr hyn i'r bar, a fi'n gobeithio bod James ddim yn mynd i banno fi!"