Prif Weinidog Cymru yn rhoi teyrnged i'r rhai fu farw yn yr ymosodiad ym Manceinion
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Carwyn Jones: Sefyll 'ochr yn ochr' gyda Manceinion

23 Mai 2017 Diweddarwyd 13:31 BST

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi rhoi teyrnged i'r rhai sydd wedi marw yn yr ymosodiad terfysgol ym Manceinion.

Dywedodd bod pobl Cymru yn "sefyll ochr yn ochr gyda phobl Manceinion heddi".

Mae munud o dawelwch yn cael ei gynnal yn y Senedd ac mae gwylnos wedi ei drefnu tu allan i risiau'r Senedd nos Fawrth.