Cogydd yn cyfaddef achosi dioddefaint diangen i gath

gwesty Image copyright MIKE SMITH/GEOGRAPH

Mae cyn-gogydd wedi cyfaddef achosi dioddefaint diangen i gath wyllt mewn cegin gwesty yn Sir Conwy.

Fe blediodd Dylan Marcus Edwards, 50 oed o Lanrwst, yn euog i'r cyhuddiad wedi digwyddiad yng Ngwesty'r Royal Oak ym Metws-y-Coed.

Clywodd Llys Ynadon Llandudno i'r gath gael ei rhoi mewn bag, a'i tharo gyda darn o bren.

Mae ail ddyn wedi gwadu'r un cyhuddiad.

Cafodd yr achos ei ohirio tan 31 Mai er mwyn i'r gwasanaeth prawf a'r RSPCA gael amser i benderfynu os bydd achos yn erbyn yr ail ddyn.