Cymru'n galw dau i'r garfan ar gyfer taith y Môr Tawel

Aaron Shingler Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Shingler a'r Scarlets yn wynebu Munster yn rownd derfynol y Pro12 ddydd Sadwrn

Mae Aaron Shingler a Phil Dollman wedi eu hychwanegu i garfan rygbi Cymru ar gyfer eu taith i Ynysoedd y Môr Tawel ym mis Mehefin.

Bydd y ddau yn ymuno â'r garfan yn dilyn gemau olaf y tymor i'w clybiau, gyda'r cefnwr Dollman yn chwarae yn rownd derfynol Uwch Gynghrair Aviva dros Gaerwysg, a Shingler yn nhîm y Scarlets fydd yn ffeinal y Pro12.

Cafodd y ddau eu dewis yn dilyn anafiadau i asgellwr y Gleision, Rhun Williams a chwaraewr rheng ôl y Gweilch, James King.

"Mae'r ddau ohonyn nhw wedi bod yn chwarae'n dda iawn yn ddiweddar ac rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw'n dod â'r lefel yna o berfformiad gyda nhw," meddai Robin McBryde, prif hyfforddwr y garfan ar gyfer y gemau yn erbyn Tonga a Samoa.