Llewod yn y ffau

Fydd y Llewod yn rhuo ar eu hymweliad â gwaelod y byd? 'Dyn ni'n gwybod bod gan Seland Newydd dîm rygbi gweddol ond beth arall wyddoch chi am y wlad?


Merched yn ennill y bleidlais

Image caption Cofeb yn Auckland i gofio'r rhai wnaeth ymladd dros yr hawl i ferched bleidleisio yn Seland Newydd

Seland Newydd oedd y wlad gyntaf i roi'r hawl i ferched bleidleisio mewn etholiad cyffredinol.

Yn ail hanner y 19eg ganrif bu menywod fel Kate Sheppard, Mary Ann Müller yn brwydro a phrotestio am yr hawl i bleidleisio.

Cafodd eu dymuniad ei wireddu ar 18 Medi 1893. Roedd yn rhaid i ferched yn y DU ddisgwyl 35 mlynedd arall cyn bwrw eu pleidlais mewn etholiadau.

Yn 2006 menywod oedd yn dal pob un o brif swyddi cyhoeddus y wladwriaeth gan gynnwys y Prif Weinidog, Llefarydd Tŷ'r Cynrychiolwyr, y Prif Ustus a'r Llywodraethwr Cyffredinol.


Canolbwynt y wlad

Image copyright Google

Man canol swyddogol Seland Newydd yw top bryn Botanical, ger Nelson yn Ynys y De.

Mae'n debyg mai'r rheswm am hynny yw mai tirfesurydd lleol, John Spence Browning, oedd yr unig un gyda digon o brofiad i fedru cynnal arolwg daearegol cenedlaethol cyntaf y wlad yn 1870. Dechreuodd ar y gwaith ar gopa bryn Botanical.

Image caption Nelson: Pwynt canol Seland Newydd

Y gêm gyntaf

Mae Nelson hefyd yn adnabyddus am reswm arall gan taw dyma lle cafodd y gêm rygbi gyntaf ei chwarae yn Seland Newydd.

Cafodd y gêm ei chyflwyno i'r wlad yn 1870 gan Charles John Monro, oedd yn fab i lefarydd senedd Seland Newydd ar y pryd. Daeth ar draws y gêm wrth astudio yng Ngholeg Crist, Finchley, yn Llundain.

Pan ddychwelodd i goleg Nelson, cyflwynodd y gêm i rai o'i gyd fyfyrwyr ac o ganlyniad chwaraeodd y coleg gêm yn erbyn clwb pêl-droed Nelson ar Fai 14, 1870.

Image caption Cofeb i'r gêm rygbi gyntaf yn Nelson

Beth am y tywydd?

Seland Newydd oedd y wlad gyntaf i ddarlledu bwletin tywydd yn iaith y coblynod.

Digwyddodd y darllediad yn 2012 i ddathlu cysylltiad amlwg Seland Newydd â ffilmiau Lord of the Rings.

Mae 'na sôn bod y Gymraeg wedi dylanwadu ar yr awdur JRR Tolkien tra'n sgwennu'r llyfrau a chyflwyno'r iaith newydd.


Pwy sy'n byw 'na?

Mae tua 4.7 miliwn o bobl yn byw yn y wlad. 69% o dras Ewropeaidd, 15% o dras y Maori a tua 10% o dras Asiaidd. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl eraill sy'n bwy yno o dras Polineisaidd.

Ond o holl bethau byw'r wlad, dim ond 5% sydd yn cael ei gynrychioli gan bobl, mae'r gweddill yn anifeiliaid o ryw siâp neu'i gilydd.

Dyma'r cyfartaledd uchaf o anifeiliaid i bobl yn y byd, ac mae'n cynnwys naw dafad i bob un person, er dim un neidr. Does dim nadroedd yn byw yn wyllt yn Seland Newydd.


Hawl i arbrofi

Yn Seland Newydd mae 'na gyfraith sydd yn dweud fod hawl gan bob ysgol fod yn berchen ar bwys o Wraniwm, a phwys o Thoriwm er mwyn cynnal arbrofion niwclear.

Ond os oes ffrwydrad niwclear, bydd rhaid i'r ysgol dan sylw dalu dirwy o $1,000,000.

Image caption "O diar! Bydd angen gwerthu mwy o jam yn y ffair haf eleni."

Tro ti i fynd i'r siop...

Mae'r stryd o dai fwyaf serth yn y byd yn Dunedin, Seland Newydd.

Mae Stryd Baldwin ar raddfa o 38º (neu bron i un mewn tri).


Llanfairpwll Seland Newydd

Falle eich bod chi'n meddwl bod Llanfairpwllgwyngyllgogerchwyrndrobwllllantysil­iogogogoch yn ddigon o lond ceg, ond meddyliwch eto.

Enw'r bryn yn Hawkes Bay yw:

Taumatawhakatangihangaoauauotameteaturipukakapikimaungahoronukupokaiwhenuakitanatahu

Rhag ofn eich bod chi'n rhy ddiog i'w cyfri, mae hwnna yn 85 llythyren o hyd!

Mae'r enw'n deillio o'r Maori ac yn golygu 'Y man lle wnaeth Tamatea, y gŵr gyda phengliniau mawr, lithro, dringo a llyncu mynyddoedd; a elwir y bwytwr tir; chwarae ei ffliwt trwyn i'r rhai mwyaf annwyl iddo.'