Dros 20,000 o barthau .cymru a .wales wedi eu cofrestru

  • 25 Mai 2017
Parthau newydd .cymru a .wales Image copyright Nominet
Image caption Mae parthau .cymru a .wales wedi bod ar gael i bawb ers 1 Mawrth, 2015

Mae dros 20,000 o barthau gwe .cymru a .wales wedi eu cofrestru ers i'r cynllun gael ei lansio ddwy flynedd yn ôl.

Mae'r cyfanswm o 20,670 yn gynnydd bychan ers Mawrth 2016, pan oedd 19,000 wedi eu cofrestru.

Cafodd dros 10,000 eu cofrestru o fewn y mis cyntaf i'r lansiad, a hynny ar Ddydd Gŵyl Dewi 2015.

Dywedodd cofrestrfa Nominet bod y parthau wedi cael croeso "ffantastig" ers cael eu lansio, a bod .cymru a .wales yn y 10 uchaf o barthau daearyddol yn Ewrop.

Mae ymchwil hefyd yn dangos bod y parthau yn y 10 uchaf ar gyfer busnesau ar-lein sy'n defnyddio parthau daearyddol.

Mae busnesau a mudiadau sydd wedi defnyddio'r parthau yn cynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Llywodraeth Cymru ac S4C.

Straeon perthnasol