'Angen adnewyddu' ysgolion erbyn 2019 medd archwilydd

  • 25 Mai 2017
School pupils (generic)

Fe fydd angen adnewyddu "nifer sylweddol" o ysgolion Cymru erbyn 2019 ac ysgolion newydd i gymryd lle eraill, medd yr Archwilydd Cyffredinol mewn adroddiad newydd.

Dywedodd Huw Vaughan-Thomas fod cynllun Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn gam ymlaen o'r hen drefn.

Ond ychwanegodd nad oedd rhai o'r adeiladau newydd yn cwrdd â safonau.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, fod miloedd o ddisgyblion wedi elwa o'r cynllun.

Mae Llywodraeth Cymru, cynghorau a sefydliadau addysg bellach yn gwario tua £1.5bn rhyngddyn nhw ar ran gynta'r cynllun a ddechreuodd yn 2014 gyda'r nod o wella ysgolion a'u gwneud yn fwy cynaliadwy.

'Angen adnewyddu'

Ond mae adroddiad yr archwilydd yn dweud y bydd nifer sylweddol o ysgolion yn dal angen eu hadnewyddu neu eu cyfnewid pan ddaw hynny i ben yn 2019.

Ychwanegodd fod y cynllun yn cael ei reoli'n "dda yn gyffredinol" ond bod angen gwelliannau hefyd.

Mae Mr Vaughan-Thomas wedi canolbwyntio ar fylchau lle nad yw Llywodraeth Cymru wedi gosod disgwyliadau yn glir o'r dechrau.

Mae pryderon hefyd am rai o'r adeiladau newydd sydd heb gyrraedd safonau amgylcheddol oedd yn ddisgwyliedig.

Yn ôl yr adroddiad, allan o 169 o brosiectau oedd wedi'u cynllunio, mae 132 ysgol a chwe chynllun addysg bellach wedi derbyn cymeradwyaeth ffurfiol Llywodraeth Cymru, ac o'r rheiny mae 59 wedi cael eu cwblhau.

Ychydig o'r cynlluniau hynny aeth dros eu cyllidebau.

Image copyright Cyngor Ceredigion
Image caption Mae Ysgol Dyffryn Cledlyn yng Ngheredigion, fydd yn agor ym mis Medi, yn un sydd wedi'i ariannu gan y cynllun

Un o argymhellion yr adroddiad yw datblygu darlun go iawn o gyflwr adeiladau ysgolion cyn y rhan nesaf o'r buddsoddiad.

Dywedodd Mr Vaughan-Thomas bod y cynllun wedi bod yn "welliant mawr ar y dull blaenorol o fuddsoddi cyfalaf yn ein hysgolion".

"Wrth i Lywodraeth Cymru gwblhau'r paratoadau ar gyfer rhan nesa'r cynllun - o 2019 ymlaen - mae angen canolbwyntio ar rai meysydd allweddol megis rheoli'r risg o fath newydd o gyllido, a sicrhau bod y cydweithio da rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol yn parhau," meddai.

Dywedodd Kirsty Williams bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n "llwyddiannus iawn gyda phartneriaid i sicrhau'r gwerth gorau am eu buddsoddiad ar y cyd" a bod disgyblion wedi elwa ynghyd â nifer o gwmnïau adeiladu lleol.

Ychwanegodd: "Rwy'n rhoi pwyslais mawr ar ddisgyblion yn cael y cyfle i ffynnu yn yr awyrgylch dysgu modern gorau posib, ac rwyf wedi ymrwymo i ddarparu digonedd yn fwy o ysgolion a cholegau o safon uchel, gyda chynllun caboledig a chynaliadwy ar draws Cymru."

'Dim digon da'

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei fod yn "falch" o ganfyddiad yr archwilydd fod disgwyl i'r rhaglen "sicrhau gwelliannau i adeiladau ysgol".

"Fodd bynnag, mae'n amlwg fod angen gwneud mwy i daclo safon ac addasrwydd llawer o ysgolion yng Nghymru, ar adeg pan mae pwysau'n parhau ar gyllid cyhoeddus," ychwanegodd.

Mynnodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, Darren Millar, fod Llafur Cymru wedi methu â gwireddu addewid i sicrhau fod pobl ysgol yn cwrdd â'r safonau erbyn 2010.

"Dyma ni, saith mlynedd yn ddiweddarach ac mae dal llawer gormod o ddisgyblion ac athrawon sy'n gorfod derbyn dosbarthiadau a chyfleusterau sydd ddim yn ddigon da," meddai.