Bywyd dynes o Ben Llŷn 'wedi ei achub' gan ei ffôn

Lisa Bridgett Image copyright Lisa Bridgett
Image caption Roedd Lisa Bridgett yn un o'r rheiny gafodd eu hanafu yn y digwyddiad

Mae gŵr dynes o Ben Llŷn gafodd ei hanafu ym Manceinion nos Lun yn dweud ei bod hi'n debygol iawn fod ei bywyd wedi ei achub gan ei ffôn.

Roedd Lisa Bridgett o Bwllheli wedi teithio gyda'i merch a ffrind ei merch i gyngerdd Ariana Grande yn arena'r ddinas pan ddigwyddodd yr ymosodiad terfysgol, laddodd 22 o bobl.

Ar wefan Facebook, dywedodd ei gŵr, Steve Bridgett, bod ei wraig mewn "hwyl bositif" a'i bod yn "lwcus iawn i fod yn fyw".

Fe gafodd Mrs Bridgett nifer o anafiadau ar ôl cael ei tharo gan shrapnel o'r bom.

Collodd fys canol ei llaw chwith, ar ôl cael ei tharo gan nyten aeth wedyn drwy ei ffôn symudol a'i boch cyn taro'i thrwyn.

Image copyright STEVE BRIDGETT / FACEBOOK
Image caption Ffôn Lisa Bridgett yr oedd hi'n ei ddefnyddio pan ddigwyddodd y ffrwydrad

"Mae'r ffaith ei bod hi ar y ffôn ar y pryd fwy na thebyg wedi achub ei bywyd," dywedodd Mr Bridgett.

"Mae'r nyten wedi taro ei ffôn, sydd mwy na thebyg, nid yn unig wedi newid ei gyfeiriad, ond wedi ei arafu'n sylweddol," meddai.

Cafodd ffêr Mrs Bridget hefyd ei tharo, ac mae ganddi glwyf mawr ar ei chlun.

"Mae ganddi nifer o friwiau a chleisiau, fel y gallwch ddychmygu", dywedodd Mr Bridget, gan ddiolch i'r heddlu a staff yr ysbytai am eu gwaith "anhygoel".

Diolchodd hefyd i stiward o'r enw Peter a oedd wedi cynorthwyo ei wraig, a dywedodd eu bod wedi trefnu i gyfarfod.

Straeon perthnasol