Cyhuddo dau ddyn o'r gogledd o lofruddio yn Southampton

  • 25 Mai 2017
Shkelzen 'Genny' Dauti Image copyright Heddlu Hampshire
Image caption Bu farw Shkelzen 'Genny' Dauti yn Ysbyty Cyffredinol Southampton wedi iddo gael ei drywanu

Mae dau ddyn o ogledd Cymru wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn 21 oed yn Southampton.

Bu farw Shkelzen 'Genny' Dauti wedi iddo gael ei drywanu yn ei frest ar 11 Mawrth eleni.

Mae Christopher Jones, 27 o Ddinbych, a Lee Williams, 27 o bentref Licswm, Sir y Fflint, wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ac fe fydd y ddau'n ymddangos o flaen Llys Ynadon Southampton ddydd Gwener.

Dywedodd llefarydd o Heddlu Hampshire: "Daw'r cyhuddiadau wedi i Genny gael ei ddarganfod ar Glôs Gilpin, Southampton, am tua 01:38 ar ddydd Sadwrn, 11 Mawrth wedi iddo gael ei drywanu yn ei frest.

"Bu farw'n ddiweddarach yn Ysbyty Cyffredinol Southampton."