Galw i gasglu gwastraff ym Machynlleth
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Galw i ailddechrau casglu gwastraff ym Machynlleth

25 Mai 2017 Diweddarwyd 21:31 BST

Ym Machynlleth mae cynghorwyr tref yn galw ar Gyngor Powys i ailddechrau casglu gwastraff swmpus yn y dref er mwyn atal tipio anghyfreithlon.

Mae pobl leol yn dweud fod tipio wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf ers i gyfleusterau ailgylchu gau ym Machynlleth.

Y dewis sydd gan drigolion yw mynd a'u nwyddau mawr i'r Drenewydd - taith o 30 milltir un ffordd - neu dalu ffi i'r cyngor sir i'w casglu o'u cartrefi. Adroddiad Craig Duggan.