Cyhuddo dyn wedi digwyddiad canolfan siopa Abertawe

  • 26 Mai 2017
heddlu

Mae dyn wedi ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad yng nghanolfan siopa'r Quadrant yn Abertawe ddydd Mercher.

Cafodd y dyn 21 oed ei gyhuddo o osod gwrthrych gyda bwriad.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Esyr Jones: "Mae'r heddlu'n ystyried achosion ffug maleisus yn rhai difrifol dros ben.

"Maen nhw'n dargyfeirio adnoddau'r heddlu ag achosi gofid ac anhrefn i'r cyhoedd."