Corff Ceredigion: Cadarnhau enw

  • 26 Mai 2017
Arthur Roy Taylor Image copyright llun teulu

Mae'r awdurdodau wedi cadarnhau mai corff Arthur Roy Taylor, 90 oed, a gafodd ei ddarganfod ar draeth yng Ngheredigion fis diwethaf.

Aeth Mr Taylor, a oedd yn cael ei adnabod fel Archie, ac o Swydd Gaerhirfryn, ar goll ar ôl mynd allan i'r môr ar ei gwch, o glwb cychod Gwbert.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod ar 30 Ebrill ar y traeth rhwng Llangrannog ac Ynys Lochtyn.

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio gan Uwch Grwner Ceredigion, Peter Brunton.