Edrych ymlaen i ffeinal y Pro 12: Munster v Scarlets

  • 27 Mai 2017
Scarlets Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Scarlets wedi enwi'r un tîm a drechodd Leinster i wynebu Munster yn rownd derfynol y Pro 12 yn Nulyn ddydd Sadwrn.

Mae'r asgellwr Steff Evans yn rhydd i chwarae wedi iddo dderbyn cerdyn coch yn y rownd gynderfynol yn dilyn penderfyniad panel disgyblu i ddileu'r gwaharddiad.

Bydd Liam Williams yn chwarae ei gêm olaf i'r Scarlets cyn iddo arwyddo i'r Saracens.

John Barclay fydd yn arwain y tîm yn absenoldeb Ken Owens gyda'r mewnwr Gareth Davies yn ymddangos am y 150fed tro i'r Scarlets.

Mae Munster hefyd yn ddi-newid ar gyfer y gêm.

'Achlysur hollol wahanol'

Llwyddodd Munster i ennill yn erbyn y Scarlets ar benwythnos agoriadol y Pro 12 ym mis Medi o 23-13 ond fe wnaeth tîm Wayne Pivac dalu'r pwyth yn ôl ym mis Chwefror pan enillodd y Scarlets o 30-21.

"Fe wnaethom gymryd hyder o'r fuddugoliaeth ym Mharc Thomond, ond mi fydd hi'n achlysur hollol wahanol," meddai prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac wrth edrych ymlaen i'r gêm.

Ychwanegodd: "Mi fydd rhaid i ni fynd yno i chwarae ein gêm ein hunain a mwynhau'r achlysur.

"Mae'r bechgyn yn gwybod os bydden ni'n cael y perfformiad yn iawn ar y diwrnod fe allwn drechu unrhyw dîm, felly mi fydd rhaid i ni fod yn iawn ar y diwrnod," meddai.

Image caption Y Cymro, Nigel Owens fydd yn dyfarnu'r gêm.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Munster, Rassie Erasmus mai "tymor go-lew" fydd hi os na wneith nhw ennill y tlws.

"Mi fyse hi'n dymor hyfryd os llwyddwn i ennill," meddai.

Bydd wyneb cyfarwydd arall yn rhan o'r gêm wrth i'r Cymro, Nigel Owens gael y cyfrifoldeb o ddyfarnu'r gêm.

Bydd y gêm ymlaen Dydd Sadwrn 27 Mai gyda'r gic gyntaf am 18:15.

Bydd sylwebaeth lawn o'r gêm ar raglen Camp Lawn BBC Radio Cymru o 18:00 ymlaen.

Cadarnhad o'r ddau dîm ar gyfer y gêm

Munster: Simon Zebo; Andrew Conway, Francis Saili, Rory Scannell, Keith Earls; Tyler Bleyendaal, Conor Murray; CJ Stander, Tommy O'Donnell, Peter O'Mahony (captain), Billy Holland, Donnacha Ryan, John Ryan, Niall Scannell, Dave Kilcoyne

Eilyddion: Rhys Marshall, Brian Scott, Stephen Archer, Jean Deysel, Jack O'Donoghue, Duncan Williams, Ian Keatley, Jaco Taute

Scarlets: Johnny McNicholl; Liam Williams, Jonathan Davies, Scott Williams, Steffan Evans; Rhys Patchell, Gareth Davies; John Barclay (captain), James Davies, Aaron Shingler, Tadhg Beirne, Lewis Rawlins, Samson Lee, Ryan Elias, Rob Evans

Eilyddion: Emyr Phillips, Wyn Jones, Werner Kruger, David Bulbring, Will Boyde, Jonathan Evans, Hadleigh Parkes, DTH Van der Merwe