Gêm bêl-droed i gofio am ddyn fu farw ym Mangor

Henry Ayabowei Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Bu farw Henry Ayabowei yn dilyn digwyddiad y tu allan i glwb nos ym Mangor ym mis Ebrill

Mae hen ffrindiau coleg dyn gafodd ei ladd ym Mangor wedi wedi cynnal gêm bêl-droed er cof amdano ac i godi arian i'w deulu.

Bu farw Henry Esin (Henry Ayabowei) o Langefni, oedd yn dad i ddau o blant yn dilyn ymosodiad y tu allan i glwb nos ym Mangor ym mis Ebrill.

Cafodd y gêm ei threfnu rhwng cyn fyfyrwyr oedd yn chwarae i dîm pêl-droed Prifysgol Bangor a'r tîm presennol.

Dywedodd Gareth Williams sy'n rhan o'r trefniadau: "Mae chwarae'r gêm yn ffordd i ni gofio Es wrth i ni geisio gwneud ein gorau i helpu ei deulu."

Cafodd y gêm ei chynnal ar gae 3G gyferbyn â Stadiwm Prifysgol Bangor gyda'r gic gyntaf am 14:00 brynhawn Sadwrn.

Bydd dyn 26 oed yn mynd ger bron llys yn yr hydref ar gyhuddiad o lofruddio Henry Ayabowei.