Morgannwg yn bowlio Durham allan

Michael Hogan Image copyright Huw Evans picture agency

Ar ddiwrnod cyntaf y chwarae rhwng Morgannwg a Durham yn Abertawe roedd yr ymwelwyr i gyd allan am 394.

Roedd Morgannwg yn dod fewn i'r ornest ar gefn gêm gyfartal yn erbyn Sir Nottingham.

Fe ddewisodd Morgannwg i fowlio yn gyntaf ac erbyn diwedd y dydd roedden nhw eto i fatio yn yr ornest.

Yn ei ymddangosiad cyntaf fel capten llwyddodd Michael Hogan i gael pum wiced.