Andrew Selby yn ennill yn y cylch bocsio

  • 27 Mai 2017
Andrew Selby Image copyright Huw Evans picture agency

Camodd Andrew Selby i'r cylch bocsio yng Nghaerdydd nos Wener wedi ennill pob un o'i wyth gornest broffesiynol. Ei wrthwynebydd oedd Cristofer Rosales a'r wobr i'r enillydd oedd cyfle i ymladd am bencampwriaeth y WBC ar gyfer pwysau pry.

Ond nid oedd y noson heb ei sioc, dechreuodd y gŵr o Nicaragua yn gryf ac fe loriodd Selby yn y rownd gyntaf gydag ergyd rymus gyda'i law dde.

Ond nid oedd y Cymro wyth ar hugain oed yn un i ildio, ymladdodd gyda'i holl allu gan ennill yn y diwedd ym marn pob un o'r dyfarnwyr.

Buddugoliaeth swmpus i Andrew Selby felly gan roi cyfle iddo ennill pencampwriaeth byd yn ei ddegfed gornest broffesiynol. Byddai hynny yn ei osod yn y llyfrau hanes.