Dau wedi'u hachub wedi i gatamarán droi drosodd

Beaumaris inshore lifeboat Image copyright RNLI/Dave Burke
Image caption Bad achub Biwmares

Bu'n rhaid achub dau o bobl wedi i'w catamarán droi drosodd ar arfordir y gogledd ddydd Sadwrn.

Cafodd gwylwyr y glannau eu galw oddeutu 14:30 wedi i berson ar bromenâd Llanfairfechan weld y digwyddiad.

Roedd bad achub Biwmares, timau achub Bangor a Llandudno a hofrennydd wedi ymateb i'r alwad.

Doedd y ddau ddim angen triniaeth a chafodd y catamarán ei chludo yn ôl i'r lan.