Aaron Ramsey yn rhoi Arsenal ar y blaen

  • 27 Mai 2017
Aaron Ramsey Image copyright Getty Images
Image caption Y Cymro Aaron Ramsey yn sicrhau buddugoliaeth i Arsenal

Y Cymro Aaron Ramsey roddodd Arsenal ar y blaen er mwyn i dîm Arsène Wenger gipio cwpan yr FA.

Dyma'r seithfed Cwpan FA i Wenger ennill ac mae hynny yn record i unrhyw reolwr.

Roedd hi'n gêm fywiog a chwaraewyr Arsenal yn chwarae gydag egni rhyfeddol a doedd hi ddim yn ymddangos fod gan Chelsea yr awydd na'r egni i wrthsefyll.

Daeth y gôl gyntaf ar ôl pedair munud ond roedd yna amheuon yn ei chylch. Roedd hi'n ymddangos fod Ramsey yn camsefyll ond llwyddodd yn wyrthiol rhag ymyrryd yn y chwarae ac fe sgoriodd Sánchez.

Rhoddodd y dechrau hwn fwy o hyder eto yn chwarae Arsenal. Er na ychwanegwyd at y sgôr yn yr hanner cyntaf, Arsenal oedd piau'r chwarae a phob un yn y crys coch yn chwarae gydag arddeliad.

Roedd yr ail hanner yn dangos mwy o benderfyniad ar ran Chelsea ac fe gafodd y gleision fwy o'r meddiant.

Ond ar ôl 68 munud fe gafodd Victor Moses ail gerdyn melyn am ffugio wrth iddo geisio ennill cic gosb a bu'n rhaid iddo adael y cae gan adael Chelsea gyda deg dyn.

Cadwont eu gobeithion oherwydd gyda phêl hyfryd gan Willian rheolodd Diego Costa'r bêl yn grefftus ar ei frest cyn gwasgu'r bêl heibio David Ospina yn gôl Arsenal.

Ond dau funud yn unig oedd hyd dathlu cefnogwyr Chelsea. Daeth Giroud ymlaen fel eilydd i Arsenal - gwnaeth rediad hyfryd ar hyd ymyl chwith y cwrt cosbi cyn croesi y bêl yn hyderus i'r canol.

Yno yr oedd Aaron Ramsey ac fe beniodd y bêl yn hyderus i'r rhwyd. Hon oedd y gôl roddodd y cwpan yn nwylo Arsenal am y trydydd tro a'r ddeg yn eu hanes.

Y sgôr terfynol felly oedd Arsenal 2 Chelsea 1.