Criced: Morgannwg dal yn obeithiol

Chris Cooke Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Chris Cooke yn dweud y bydd e'n gwneud ei orau ar ddechrau'r chwarae ddydd Sul

Ar ddiwedd y chwarae ddydd Sadwrn roedd Morgannwg 117 rhediad tu ôl i fatiad cyntaf Durham â phedair wiced wrth gefn.

Roedd hi'n hanner awr wedi dau ar y criced yn dechrau ac wedi'r dechrau yn Sain Helen, Abertawe yr oedd Paul Collingwood yn parhau yn ddraenen yn ystlys Morgannwg - nid wrth fowlio ar y llain ond yn hytrach yn dal y bêl.

Digon tywyll oedd hi ar Forgannwg ar un adeg gyda'r sgôr yn 119-5 ond yna llwyddodd perfformiad Chris Cooke ac Aneurin Donald i sefydlogi pethau. Rhyngddynt sicrhaodd y ddau 42 rhediad. Cafodd Donald ei ddal gan fowlio Jennings oddi ar fowlio Weighell ar ôl sgorio 51.

Ond erbyn hynny yr oedd Chris Cooke, wicedwr Morgannwg yn gartrefol ar y llain ac erbyn diwedd y chwarae ddydd Sadwrn roedd wedi sgorio 63 rhediad.

Felly ar ôl 59 pelawd roedd Morgannwg yn 225 am 6 wiced, 117 rhediad tu ôl i fatiad cyntaf Durham â phedair wiced wrth gefn.

Mae deuddydd arall o chwarae ac mae'r ddau dîm yn dal yn gobeithio am fuddugoliaeth.