Rhybudd o law trwm a llifogydd sydyn

Dyn yn brwydro yn erbyn y storm Image copyright PA

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hi fwrw'n drwm iawn mewn rhannau o dde a chanolbarth Cymru ac fe allai hynny arwain at lifogydd.

Mewn mannau gallai glaw difrifol a stormydd o fellt a tharanau achosi 30 neu 40mm o ddŵr mewn awr.

Mae'r rhybudd melyn mewn grym rhwng 12.00 ddydd Sul a 16:00 ddydd Llun.

Mae 'na rybudd hefyd y gallai mellt posib gael effaith ar gyflenwadau trydan.