Criced: Clark yn taro nôl dros Durham

  • 28 Mai 2017
Batiad llwyddiannus i Andrew Salter Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Batiad llwyddiannus i Andrew Salter

Dechreuodd trydydd diwrnod gêm bedwar diwrnod Morgannwg yn erbyn Durham yn ail gynghrair pencampwriaethau sirol criced yn dda.

Llwyddont i ychwanegu 192 at eu sgôr ar ddechrau'r dydd gan roi cyfanswm o 353 - 11 yn well na batiad cyntaf Durham.

Gwnaeth Andrew Salter sgorio 75 yn ystod ei fatiad - ei sgôr orau i Forgannwg.

Pan ddaeth Durham i'r llain roedd gafael Morgannwg ar y gêm yn cryfhau. Syrthiodd tair wiced Durham am 75 rhediad.

Roedd David Lloyd yn dathlu wrth iddo gipio wiced prif fatiwr Durham Keaton Jennings, coes o flaen y wiced gyda'i belen gyntaf un.

Ond pan ddaeth Graham Clark i'r llain bu trawsnewid eto. Rhwng Clark a Collingwood daeth Durham yn ôl i'r gêm - un wedi sgorio 63 a'r llall 40 erbyn diwedd y chwarae.

Daeth y diwedd yn gynnar wrth i 'r glaw roi terfyn ar y chwarae am 5.20 gyda Durham bellach ar 158 am dri - 147 rhediad ar y blaen i Forgannwg.